Chapter 3: Ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol

Blaenoriaethau Samariaid Cymru 2022–24

Gwella’r mynediad i’n gwasanaethau cymorth emosiynol trwy roi modelau cyflenwi gwasanaeth newydd ar waith ar raddfa fwy, arloesi a defnyddio technoleg ddigidol i ddatblygu dulliau gwasanaeth newydd, a chydgrynhoi ansawdd a chapasiti’r modelau gwasanaeth presennol.

Sicrhau bod ein gwasanaethau’n cyrraedd y bobl a’r cymunedau sydd fwyaf agored i risg hunanladdiad ac sydd angen cymorth fwyaf, gan gynnwys trwy bartneriaethau a chydweithredu â gwahanol sefydliadau, diwydiannau a sectorau.

Ymgyrchu, dylanwadu ac eirioli ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, gan gynnig canolfan ragoriaeth ynghylch atal hunanladdiad sydd wedi’i llywio gan brofiad byw a thystiolaeth gadarn.

Gwella ein gallu i fod yn un tîm bobl amrywiol sy’n cael eu gwerthfawrogi, gan wneud y defnydd gorau posibl o sgiliau a thalentau gwirfoddolwyr a staff cyflogedig.

Harneisio egni ac angerdd ein cefnogwyr i ymgyrchu, sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed a chodi arian er mwyn cynnig gwell cefnogaeth i’r rhai sydd ei hangen.

Gweledigaeth y Samariaid yw bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad

I gyflawni hyn, credwn fod gan y Samariaid rôl hollbwysig i’w chwarae yn y canlynol:

  • Lleihau’r ffactorau risg sy’n gwneud rhai pobl yn fwy tebygol o wneud amdanynt eu hunain.
  • Lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael meddyliau hunanladdol.
  • Sicrhau bod pobl sy’n profi mwy o risg yn cael eu cynorthwyo.
  • Ei gwneud yn llai tebygol y bydd pobl sy’n cael meddyliau hunanladdol yn gweithredu arnynt.

Ein cenhadaeth

Rydym ni yma pob dydd a nos drwy gydol y flwyddyn i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Rydym yn gwneud yn siŵr bod gan bobl rywle i droi a chymorth pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Rydym yn gweithio gyda chymunedau i roi gwybod i bobl ein bod ni yma iddynt ac rydym yn ymgyrchu i wneud atal hunanladdiad yn flaenoriaeth.

Ein blaenoriaethau strategol 2022–27

Rydym wedi gweithio’n agos gyda phobl sydd wedi cysylltu â’r Samariaid, y mae hunanladdiad neu feddyliau hunanladdol wedi effeithio arnynt, a’r rhai sy’n gwirfoddoli ac yn gweithio gyda ni neu’n ein cefnogi, i nodi pum prif uchelgais ar gyfer ein strategaeth newydd i wella Mynediad, Cyrhaeddiad, Effaith, Gallu a Chynaliadwyedd.

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yw un o’r prif egwyddorion yn ein strategaeth newydd. Bydd yn cysylltu â phopeth a wnawn yn y Samariaid, gan arwain y ffordd rydym yn gweithio ac yn ymddwyn.

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gael ar ein gwefan.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch