Chapter 2: Ynghylch y Samariaid yng Nghymr

  • Rydym yma i wrando bob amser, 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn
  • Mae gennym linell gymorth Gymraeg sydd ar agor bob dydd rhwng 7pm a 11pm
  • Rydym yn ateb galwad am gymorth bob 3½ munud yng Nghymru
  • Mae gwirfoddolwyr mewn canghennau yng Nghymru yn treulio mwy na 40,000 o oriau yn ateb galwadau am gymorth bob blwyddyn
  • Mae gennym fwy na 700 o bobl wych yn gwirfoddoli i’r Samariaid mewn 10 cangen yng Nghymru

Gweithio mewn partneriaeth

Mae ein gwaith partneriaethol yn cynnwys:

  • Ein gwaith mewn carchardai ledled y DU ac Iwerddon – yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS), ar atal hunanladdiad trwy ein Cynllun Gwrandawyr.
  • Ein gwaith gyda’r diwydiant rheilffyrdd – partneriaeth genedlaethol gyda Network Rail a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a’r cwmnïau trên er mwyn lleihau hunanladdiadau ar y rheilffyrdd a chefnogi pawb maen nhw’n effeithio arnynt.
  • Ein gwaith mewn ysgolion – rydym yn gweithio gydag ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc trwy ein hadnoddau addysgu ac yn cynnig cymorth arbennig os oes hunanladdiad yng nghymuned ysgol.

Need support? Call 116 123 to speak to a Samaritan or

view other ways to get in touch