Datblygwyd y canllaw hwn i gefnogi defnydd diogel a chyfrifol o’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig wrth drafod lleoliadau sy'n peri pryder.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn darparu lle hygyrch i bobl gysylltu, rhannu'r hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau lleol a chael eu cyfeirio at gymorth sydd ar gael. Maent yn gallu cynnig cymorth amhrisiadwy mewn cyfnodau o argyfwng, a rhoi cyfleoedd i bobl sy'n profi hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ddod o hyd i ddealltwriaeth ac ymdeimlad o gymuned.
Fodd bynnag, gall y cyfryngau cymdeithasol hefyd beri i ddefnyddwyr ddod i gysylltiad â chynnwys sy'n achosi gofid a galluogi sgyrsiau niweidiol. Mae hyn yn cynnwys damcaniaethu am leoliadau, a all gyfrannu at y lleoedd hynny'n cael eu cysylltu â hunanladdiad.
Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at sefydliadau, gwasanaethau ac aelodau'r gymuned leol a allai fod yn gyfrifol am reoli neu ymateb i faterion ar-lein mewn perthynas â lleoliad sy'n peri pryder. Gallai hyn gynnwys rheolwyr cyfryngau cymdeithasol sefydliadau ac asiantaethau statudol, gweinyddwyr ac aelodau cymunedau ar-lein lleol, ac arweinwyr ymgyrchoedd dros newid.
Gallwch gael mynediad at fersiwn Saesneg y dudalen hon yma.
Ynglŷn â'r canllaw hwn
Beth yw nod y canllaw?
Gall cyfathrebiadau diogel a sensitif am hunanladdiad ar-lein achub bywydau¹. Ond mewn amgylchedd cyfathrebu sy'n newid yn gyflym, gall fod yn anodd ei reoli.
Rydym wedi amlinellu 10 egwyddor graidd i'w dilyn i'ch cefnogi i gyfathrebu'n ddiogel ar-lein. Mae’r rhain yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth ochr yn ochr â mewnwelediadau a gasglwyd gan asiantaethau, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, academyddion a phobl â phrofiad o lygad y ffynnon.
Drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, gall rheolwyr cyfryngau cymdeithasol ac aelodau’r gymuned leol rannu negeseuon diogel a gobeithiol a chyfeirio pobl at gyfleoedd i gael cymorth. Gall cyfathrebu mwy diogel leihau niwed wrth annog cefnogaeth a cheisio cymorth, a chaniatáu i bobl siarad yn agored heb niweidio eraill yn anfwriadol.
Beth yw lleoliad sy'n peri pryder?
Mae'r Samariaid yn ystyried lleoliadau sy'n peri pryder yn lleoedd cyhoeddus lle mae dau neu fwy o farwolaethau trwy hunanladdiad neu geisio hunanladdiad wedi digwydd, a lle gall pobl sy’n cael meddyliau hunanladdol ymweld ag ef. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i leoedd cyhoeddus, lle mae pobl efallai wedi marw trwy hunanladdiad neu wedi ceisio hunanladdiad. Cyfeirir at y lleoedd hyn hefyd fel lleoliadau risg uchel, lleoliadau amlder uchel, lleoliadau a ddefnyddir yn aml neu leoliadau a uwchgyfeiriwyd.
Mae astudiaethau wedi dangos bod enwi lleoliad sy'n peri pryder a'i gysylltu â hunanladdiad², neu rannu lluniau, fideos a manylion disgrifiadol, yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chynnydd mewn ceisiadau hunanladdiad yn y lleoliadau hyn. Gall dyfalu ynghylch y rhesymau pam mae rhywun yn teimlo'n hunanladdol, neu'r manylion ynghylch hunanladdiad, hefyd gynyddu'r risg i eraill mewn sefyllfaoedd tebyg oherwydd efallai y byddant yn teimlo cysylltiad â'r unigolyn hwnnw.
“Mae’n bwysig dangos i bobl ei bod hi’n iawn siarad am hunanladdiad, cyn belled â’i fod yn cael ei wneud yn sensitif ac yn ddiogel.”
– Unigolyn sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o feddyliau hunanladdol, aelod o’n Grŵp Cynghori.
10 egwyddor i helpu i reoli’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel
1. Osgoi cysylltu hunanladdiad â lleoedd penodol
Mae ymchwil yn dangos y gall cysylltu hunanladdiadau â lleoliadau penodol ddenu pobl sy’n agored i niwed i'r ardaloedd hyn.
Bydd cyfathrebu mwy diogel yn:
- Cyfeirio at ardal neu ranbarth ehangach, yn hytrach na lleoliad penodol
- Nodi fod yr ardal yn lle cyhoeddus, gan y gall hyn atal pobl rhag mynd yno
- Pwysleisio, gan gynnwys mewn lluniau, bod yr ardal yn lle prysur
Mae cyfathrebu mwy diogel yn osgoi:
- Enwi lleoliad penodol yng nghyd-destun hunanladdiad
- Cyfeirio at yr ardal fel rhywle sy’n adnabyddus am hunanladdiadau
- Ei bortreadu fel lle tawel, ynysig
- Disgrifio'r lleoliad, rhoi cyfarwyddiadau neu roi unrhyw fanylion adnabod, gan gynnwys mewn lluniau a fideos
Mae amgylcheddau ar-lein mwy diogel yn rhoi gwybod i bobl sut i gael sgyrsiau diogel am hunanladdiad. Efallai yr hoffech roi neges fer ar eich platfform ar-lein yn cyfeirio pobl at yr arweiniad gan y Samariaid, er enghraifft “Mae’r Samariaid yn cynnig arweiniad defnyddiol ar sut i siarad am hunanladdiad yn ddiogel ar-lein: www.samaritans.org/talkingsafelyonline. Os byddwch yn gweld unrhyw sylwadau niweidiol, cliciwch y botwm adrodd er mwyn helpu i gadw'r ardal hon yn ddiogel”
“Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli’r peryglon o rannu lleoliad fel hyn.”
– Unigolyn sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o feddyliau hunanladdol, aelod o’n Grŵp Cynghori.
2. Canolbwyntio ar aflonyddwch a diweddariadau, nid digwyddiadau
Os oes angen codi ymwybyddiaeth o leoliad, oherwydd bod y posibilrwydd o aflonyddwch sy'n gysylltiedig â rhywun mewn argyfwng, dylid osgoi cysylltu'r lleoliad â hunanladdiad.
Bydd cyfathrebu mwy diogel yn:
- Canolbwyntio ar aflonyddwch sy'n effeithio ar y gymuned, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddargyfeiriadau ac amser cau disgwyliedig
- Defnyddio’r wybodaeth leiaf posibl ynglŷn â pham mae lle wedi'i gau
- Cyfeirio defnyddwyr sydd mewn trallod at gymorth, gan ddibynnu ar y sefyllfa. Gallwch ddod o hyd i restr o ffynonellau cymorth yma.
Mae cyfathrebu mwy diogel yn osgoi:
- Cyfleu natur y digwyddiad
- Enwi'r lleoliad sy'n peri pryder yn benodol
- Gwneud sylwadau niweidiol neu ddamcaniaethol, a all ysgogi trafodaethau di-fudd
Gall datganiadau safonol sy'n rhoi’r wybodaeth leiaf posibl ac sy'n glir ynghylch oedi neu ardaloedd sydd wedi cau helpu i leihau damcaniaethu.
Gallech ddweud “byddwch yn ystyriol o ddiogelwch y gweithwyr proffesiynol dan sylw, parchwch ardal gaeedig yr heddlu ac osgowch yr ardal nes bydd hysbysiad pellach.”
3. Defnyddio cyfathrebu gobeithiol
Mae cyfathrebu’n fwyaf diogel pan fydd sylw'n cael ei gyfeirio at gefnogaeth yn hytrach na rhoi manylion am ddigwyddiad. Mae tystiolaeth yn dangos bod negeseuon o obaith ac adferiad yn cael effaith amddiffynnol ar bobl.
Bydd cyfathrebu mwy diogel yn:
- Annog pobl i geisio cymorth a thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael
- Lleihau'r stigma ynghylch meddyliau hunanladdol
- Rhannu negeseuon o obaith ac adferiad
Mae cyfathrebu mwy diogel yn osgoi:
- Dyfalu ynghylch pam y digwyddodd hunanladdiad
- Trafodaeth fanwl am yr hyn a ddigwyddodd
Gall ein canllaw 3 munud ar sut i siarad yn ddiogel am hunanladdiad ar-lein helpu i fodelu sgyrsiau diogel a lleihau stigma sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwn
4. Defnyddio iaith dosturiol
Mae iaith dosturiol yn helpu i greu mannau lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i geisio cymorth a gall osod disgwyliadau ar gyfer sut mae pobl eraill yn ymgysylltu.
Mae cyfathrebu mwy diogel yn defnyddio iaith sydd:
- Yn dosturiol a chynhwysol
- Ddim yn feirniadol
Mae enghreifftiau o eiriad mwy diogel yn cynnwys:
- "bu farw trwy hunanladdiad"
- “daeth â’i fywyd ei hun i ben”
- "unigolyn sydd mewn perygl o hunanladdiad"
- “unigolyn mewn argyfwng”
Mae cyfathrebu mwy diogel yn osgoi iaith a all gynyddu niwed, fel:
- Disgrifiadau ysgytiol
- Enwi lleoliad fel rhywle sy’n adnabyddus am lawer o hunanladdiadau
- “Wedi cyflawni hunanladdiad”, a all stigmateiddio neu wneud i hunanladdiad swnio fel trosedd
- Ymadroddion sy'n awgrymu bod hunanladdiad yn anochel, yn ddi-boen neu'n ateb i broblem
- Awgrymu bod rhywun mewn argyfwng yn hunanol neu'n ceisio sylw
Sbotolau ar ymgyrchoedd dros newid mewn lleoliad sy'n peri pryder
Wrth ddatblygu neu gynnal ymgyrch ynghylch lleoliad sy'n peri pryder, mae nifer o bwyntiau allweddol i'w cofio er mwyn gwneud eich ymgyrch yn fwy diogel.
- Wrth gofio am rywun sydd wedi marw trwy hunanladdiad, ystyriwch yr wybodaeth sy'n cael ei rhannu a dathlwch gyflawniadau'r unigolyn, ei rinweddau a’i ddiddordebau, yn hytrach na rhoi manylion ei farwolaeth.
- Siaradwch am ardal ehangach yn hytrach na safle neu leoliad penodol sy'n peri pryder. Mae hyn yn helpu i ddiogelu’r gymuned ehangach a phobl leol a allai fod yn ymgyrchu.
- Cysylltwch ag elusennau iechyd meddwl lleol a grwpiau atal hunanladdiad, fel y gellir cysylltu eich ymgyrch chi â'u mentrau atal hunanladdiad.
- Siaradwch yn ddiogel am hunanladdiad i gynyddu dealltwriaeth pobl a’u hannog i geisio cymorth. Er mwyn cefnogi hyn, mae ein Gwasanaeth Cynghori ar y Cyfryngau yn darparu'r canllaw defnyddiol hwn sy’n cynnwys adran ar 'Ymgyrchu dros newid yn ddiogel'.
5. Cyfeirio at gymorth
Mae cyfeirio at gymorth yn un o elfennau amddiffynnol cryfaf cyfathrebu ar-lein. Mae'n arbennig o ddefnyddiol cynnwys gwybodaeth am gymorth yn y sylwadau i ddefnyddwyr eraill eu gweld.
Mae cynnwys gwybodaeth am gymorth yn:
- Normaleiddio ceisio cymorth
- Darparu opsiynau cymorth ar unwaith
- Gwneud postiadau'n fwy diogel i ddarllenwyr sy’n agored i niwed
AWGRYM: Gallai sefydliadau gadw ffolder ar-lein a rennir yn cynnwys asedau digidol, fel delweddau wedi'u dylunio gyda negeseuon gan wasanaethau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad lleol a chenedlaethol. Postiwch y negeseuon a'r ymgyrchoedd hyn ochr yn ochr â straeon o obaith ac adferiad gan bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl a theimladau hunanladdol.
Pan fydd angen, atebwch sylw trwy gyfeirio at gymorth, ac, os yw ar gael, piniwch yr wybodaeth er mwyn i bawb ei gweld.
Gallech chi ddweud:
“Cofiwch fod cymorth ar gael os ydych chi'n gweld bywyd yn anodd. Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yno i chi 24/7 ar 116 123, neu anfonwch neges destun yn cynnwys y gair SHOUT i 85258.”
“Mae’n ddrwg gen i glywed bod pethau wedi bod yn anodd. Os ydych chi yn y DU neu Iwerddon gallwch ffonio’r Samariaid am ddim, ddydd neu nos, ar 116 123.”
Cofiwch y gallwch gyfeirio at wasanaethau lleol a chenedlaethol sy'n cynnig cymorth arbenigol. Ystyriwch amrywiaeth o opsiynau, fel llinell argyfwng, gwasanaeth negeseuon ffôn, ac opsiwn ar-lein, a chynnwys oriau agor y gwasanaethau. Yng Nghymru, gallwch gyfeirio at Cael Cymorth Nawr - SSHP, a llinell iaith Gymraeg y Samariaid, 08081640123, sydd ar agor bob dydd rhwng 7pm a 11pm. Mae Suicide Prevention Scotland a Lifeline Northern Ireland sydd ar gael trwy ffonio 08088088000, a Pieta yng Ngweriniaeth Iwerddon ar 1800 247 247, yn opsiynau lleol eraill.
“Mae cyfeirio at gymorth yn weithred fach sy’n gallu cael effaith fawr! Mae'n adlewyrchu'n dda iawn ar y sefydliad gan ei fod yn dangos ei fod yn gofalu am y bobl sy'n cael yr wybodaeth. Rwy'n ei werthfawrogi'n fawr pan fyddaf yn eu gweld.”
– Unigolyn â phrofiad o lygad y ffynnon o feddyliau hunanladdol, aelod o'n Grŵp Cynghori.
6. Cynnal lleoedd ar-lein mwy diogel
Mae rheolwyr cyfryngau cymdeithasol a gweinyddwyr cymunedau ar-lein yn gyfrifol am fonitro a rheoli sylwadau. Dylent ganolbwyntio ar leihau niwed ac atal damcaniaethu, wrth gynyddu cyfleoedd i gael cymorth.
Bydd dulliau o reoli yn dibynnu ar adnoddau, fel amser, offer a phrosesau. Gall cyfyngu ar sylwadau pan fo'r drafodaeth yn debygol o droi'n negyddol neu'n ddamcaniaethol fod yn ddefnyddiol, ond mae'n werth cadw hyn i'r lleiafswm.
Fe'ch cynghorir yn gryf i ddileu sylwadau sy'n enwi dull neu leoliad sy'n gysylltiedig â hunanladdiad. Mae'r un peth yn berthnasol i fideos, delweddau neu fanylion graffig a disgrifiadol o'r lleoliadau hyn, yn cynnwys rhai sy’n ymwneud â phobl mewn argyfwng. Dylid hefyd roi gwybod i’r platfform am y rhain. Mae rhoi gwybod i bobl sut a pham mae sylwadau'n cael eu rheoli yn helpu i feithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth y gymuned.
Yn dibynnu ar y sefyllfa, gall monitro a rheoli gynnwys:
- Dileu sylwadau sy'n cynnwys dulliau hunanladdiad neu leoliadau sy'n peri pryder
- Cadw sylwadau i'w hadolygu cyn iddynt gael eu postio
- Cyfyngu ar sylwadau ar achosion proffil uchel
- Analluogi sylwadau newydd 24-48 awr ar ôl i'r post gael ei gyhoeddi
- Cau sylwadau yn ystod cyfnodau o gapasiti rheoli cyfyngedig, fel gwyliau cyhoeddus
Mae’r platfformau’n cynnig offer rheoli y gallwch eu harchwilio, fel y rhain sydd ar gael ar Facebook ( 1 a 2 ), Instagram, LinkedIn, YouTube, TikTok ac X.
AWGRYM: Gall diweddaru eu canllawiau cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol iawn i reolwyr cyfryngau cymdeithasol, fel y gallant gyfeirio pobl atynt wrth reoli sylwadau. Mae canllawiau cyfryngau cymdeithasol y Samariaid yn enghraifft ddefnyddiol: “Rydym wedi cuddio eich ymateb gan ei fod yn groes i ganllawiau ein cymuned. Gall delweddau neu ddisgrifiadau o hunan-niweidio a hunanladdiad beri gofid i rai pobl, felly rydym yn cuddio sylwadau fel hyn i gadw ein tudalen yn lle diogel. Gobeithiwn eich bod yn deall. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen canllawiau cyfryngau cymdeithasol.”
Ychwanegu rheol at eich cymuned yw'r ffordd hawsaf i weinyddwyr cymunedau ar-lein arwain sgyrsiau gwybodus am hyn. Gallech ddweud:
“Rydym yn cefnogi sgyrsiau diogel a gwybodus am hunanladdiad yn seiliedig ar ganllawiau’r Samariaid: www.samaritans.org/talkingsafelyonline. Er diogelwch y gymuned hon, rhowch wybod am sgyrsiau niweidiol a pheidiwch â phostio am leoliadau neu ddulliau sy'n gysylltiedig â hunanladdiad, gan fod hyn wedi'i gysylltu â chyfraddau uwch o hunanladdiad. Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yno i chi 24/7 ar 116 123. Mae rhagor o opsiynau cymorth ar gael o: www.samaritans.org/how-we-can-help/if-youre-having-difficult-time/other-sources-help .
Mae hefyd yn hanfodol nad yw enw, llun na disgrifiad o gymuned ar-lein yn enwi nac yn dangos lleoliad sy'n gysylltiedig â hunanladdiad. Mae'n well cyfeirio at ardal ehangach a disgrifio lle ar gyfer sgyrsiau diogel.
Cofiwch mai eich rôl chi yw cyfeirio defnyddwyr at gymorth. Peidiwch byth â rhoi cyngor na chwnsela.
Gofalwch am eich hun ar ôl gwylio cynnwys graffig a niweidiol trwy gymryd seibiant a gwneud rhywbeth i’ch helpu i ymlacio. Gwyliwch gynnwys dim ond pan fo angen a dileu'r hyn nad oes ei angen mwyach. Cysylltwch â gwasanaethau cymorth i chi'ch hun pan fydd angen.
7. Cadw’r sgwrs i fynd yn ddiogel
Gall siarad am hunanladdiad yn ddiogel ar-lein achub bywydau. Er y gall ymddangos yn opsiwn defnyddiol, gall cau adrannau sylwadau yn llwyr rwystro sgyrsiau cymunedol diogel a gwthio pobl i fannau ar-lein eraill heb eu monitro a mwy peryglus, sydd ymhellach i ffwrdd o ffynonellau cymorth.
Er mwyn sicrhau bod pobl yn siarad yn ddiogel dylech wneud y canlynol:
- Cyfyngu ar ddyfalu
- Rhoi gwybod i’r platfformau am gynnwys niweidiol
- Annog trafodaeth llawn parch
- Tynnu sylw at wybodaeth am gymorth
Lle bo modd, defnyddiwch y dulliau rheoli a nodir yn Egwyddor 6 i leihau niwed wrth gynnal deialog gefnogol.
“Gall lleoedd ar-lein fod yr unig le lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein clywed.”
– Unigolyn sydd â phrofiad o lygad y ffynnon o feddyliau hunanladdol ac aelod o’n Grŵp Cynghori.
8. Ymateb i risg
Ar adegau, efallai y bydd angen i chi ymateb i weithgarwch ar-lein sy'n peri pryder ac sy'n rhoi pobl mewn perygl sylweddol. Gallai hyn gynnwys:
- Gwybodaeth am ddulliau a lleoliadau
- Heriau ar-lein neu grwpiau preifat sy’n annog pobl yn uniongyrchol i niweidio eu hunain
- Llawer o hunanladdiadau a allai fod wedi'u cysylltu â gweithgarwch ar-lein
Yn y sefyllfa hon:
- Adroddwch am y gweithgarwch hwn yn uniongyrchol i'r platfform ac ystyriwch yn ofalus pa asiantaethau neu sefydliadau y dylid eu cynnwys er mwyn osgoi tynnu sylw ychwanegol at y deunydd niweidiol.
- Uwchgyfeiriwch a cheisiwch gyngor gan eich rheolwr, arweinydd atal hunanladdiad, grŵp aml-asiantaeth neu asiantaethau eraill, gan ddibynnu ar y sefyllfa.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein canllawiau ar ymateb i weithgarwch sy'n peri pryder a chysylltwch â'n Gwasanaeth Cynghori ar Ddiogelwch Ar-lein i gael rhagor o gymorth. - Pan welwch weithgarwch sy'n awgrymu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, rhowch wybod i'r gwasanaethau brys os gallwch chi ddarparu gwybodaeth am bwy yw’r unigolyn neu ei leoliad. Unwaith eto, rhowch wybod am y cynnwys i'r platfform, fel y gallant uwchgyfeirio’r sefyllfa ac anfon adnoddau cefnogol at yr unigolyn. Dilynwch weithdrefnau diogelu eich sefydliad.
- Byddwch yn ofalus o sylwadau gan bobl oedd yn dyst i’r digwyddiad, gan y gallant fod wedi'u trawmateiddio ac yn anymwybodol o risgiau rhannu manylion am hunanladdiad ar-lein. Cyfeiriwch nhw at linell gymorth y Samariaid ac at gymorth trawma, os yw ar gael. Dylid rheoli eu sylwadau yn dibynnu ar y cynnwys.
Efallai y byddwch chi'n dod ar draws sylwadau neu bostiadau sy’n cynnwys teyrngedau neu negeseuon coffa i farwolaeth trwy hunanladdiad mewn lleoliad sy'n peri pryder. Mae'n werth cymryd gofal ychwanegol gyda phostiadau fel y rhain, gan gyfeirio at ein canllawiau ar gyfer cofebion diogel ar-lein ac at sefydliadau sy'n cynnig cymorth i bobl sydd wedi colli eu bywydau oherwydd hunanladdiad, fel At a Loss, Survivors Of Bereavement by Suicide (SOBS), Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru, a Hugg yn Iwerddon.
9. Cydweithio
Wrth ymateb i faterion ar-lein sy'n ymwneud â lleoliadau sy’n peri pryder, gall helpu i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol eraill yn yr ardal leol (er enghraifft, cynghorau lleol, yr heddlu, arweinwyr iechyd y cyhoedd).
Mae cydweithio’n helpu i wneud y canlynol:
- Nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg
- Ymateb yn gyflym
- Rhannu adnoddau defnyddiol
- Hyrwyddo negeseuon cyson
- Gwella ymatebion i sefyllfaoedd sy'n peri pryder
Mae dulliau cydlynol yn caniatáu i wahanol grwpiau a sefydliadau gyfrannu yn ôl eu rolau a'u cryfderau.
AWGRYM: Gall yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad am ddim gan Zero Suicide Alliance helpu i feithrin hyder eich rhwydwaith wrth gael sgyrsiau am hunanladdiad. Mae'r Samariaid yn cynnig hyfforddiant ychwanegol i adnabod a chefnogi unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi.
Wrth weithio mewn grwpiau atal hunanladdiad aml-asiantaeth, gall aelodau ymgymryd â’r mentrau sydd fwyaf addas i'w rolau.
Mae hyn yn cynnwys monitro grwpiau cymunedol ar-lein â blaenoriaeth mewn dinas neu ranbarth lleoliad sy'n peri pryder; cysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar-lein, fel rheolwyr cyfryngau cymdeithasol o fewn sefydliadau ac mewn asiantaethau statudol, gweinyddwyr ac aelodau cymunedol ar-lein lleol, ac arweinwyr ymgyrchoedd dros newid; a chyfeirio at gymorth sydd ar gael trwy hyrwyddo gwasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol, yn cynnwys iechyd meddwl, atal hunanladdiad a gwasanaethau cymunedol.
Gall ymdrechion cydweithredol hefyd gynnwys hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol mewn ardaloedd o amgylch lleoliad sy'n peri pryder, gan gyfeirio pobl at gymorth cyffredinol, er enghraifft, “Dim ond i’ch atgoffa, os ydych chi angen siarad â rhywun, gallwch ffonio’r Samariaid am ddim, ddydd neu nos, ar 116 123.”
10. Rhannwch straeon o obaith ac adferiad
Ystyriwch ddatblygu neu rannu ymgyrchoedd a negeseuon defnyddiol o ran llesiant meddyliol, a straeon am obaith ac adferiad yn lleol. Mae ymchwil wedi dangos y gall straeon cadarnhaol am bobl yn goresgyn argyfwng a sut y maent wedi gwella annog pobl sy’n agored i niwed i geisio cymorth a lleihau nifer y bywydau sy’n cael eu colli o ganlyniad i hunanladdiad.
Os ydych chi'n datblygu ymgyrchoedd lleol, gallai'r adnoddau hyn fod yn ddefnyddiol i'w hystyried hefyd:
- Canllaw Cyfathrebu ar gyfer Atal Hunanladdiad gan ein Gwasanaeth Cynghori ar y Cyfryngau
- Ymgyrch 'Nid dy stori di i’w hadrodd yw hi'
Mae gan y Samariaid amrywiaeth o adnoddau ychwanegol sy'n canolbwyntio ar atal hunanladdiad ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Ewch i'n tudalen Rhaglen Rheilffyrdd i gael rhagor o wybodaeth.
Gwneud hyn gyda'n gilydd
Mae astudiaethau diweddar wedi archwilio rôl y cyfryngau cymdeithasol o ran niwed a chefnogaeth³, yn cynnwys tystiolaeth o effeithiau cadarnhaol paratoi pobl i gyfathrebu'n ddiogel am hunanladdiad ar-lein⁴. Maent hefyd yn tynnu sylw at yr angen am strategaethau iechyd y cyhoedd rhagweithiol i gryfhau arferion addysg, ynghyd â monitro a rheoli ar gyfer defnydd mwy diogel o’r cyfryngau cymdeithasol⁵.
Gall cyfathrebu diogel ar-lein achub bywydau. Mae gosod y safonau ar gyfer sgyrsiau diogel ar-lein yn helpu i greu gofodau sensitif a chefnogol ar gyfer cysylltiad a chymuned.
Gall hwn fod yn fater anodd ei lywio ar ein pennau ein hunain, ond gallwn ei wneud gyda'n gilydd. Mae gwasanaeth cynghori ar ddiogelwch ar-lein a gwasanaeth cynghori ar gyfer y cyfryngau’r Samariaid ar gael i roi cyngor mwy penodol. Os ydych yn cael ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch hunanladdiad mewn mannau cyhoeddus, rhwydweithiau ffyrdd neu reilffyrdd, cyfeiriwch nhw at y canllawiau gan ein tîm Cyfryngau.
Drwy ddilyn y 10 egwyddor yn y canllaw hwn, gallwn helpu i gadw ein lleoedd ar-lein yn ddiogel ac annog pobl i geisio cymorth.
Comisiynwyd y canllaw hwn gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Cyfeiriadau:
- Niederkrotenthaler, T., Braun, M., Pirkis, J., Till, B., Stack, S., Sinyor, M., Tran, U. S., Voracek, M., Cheng, Q., Arendt, F., Scherr, S., Yip, P. S. F., & Spittal, M. J. (2020). Association between suicide reporting in the media and suicide: systematic review and meta-analysis. BMJ, 368, m575.
- Law, P. C. F., Spittal, M. J., Too, L. S., Pirkis, J., & Clapperton, A. J. (2025). Media reporting about sites frequently used for suicide.
- Calvo, S., Carrasco, J. P., Conde-Pumpido, C., Esteve, J., & Aguilar, E. J. (2024). Does suicide contagion (Werther effect) take place in response to social media? A systematic review. Spanish Journal of Psychiatry and Mental Health.
- La Sala, L., Pirkis, J., Cooper, C., Hill, N. T. M., Lamblin, M., Rajaram, G., Rice, S., Teh, Z., Thorn, P., Zahan, R., & Robinson, J. (2023). Acceptability and Potential Impact of the #chatsafe Suicide Postvention Response Among Young People Who Have Been Exposed to Suicide: Pilot Study. JMIR Human Factors, 10, e44535.
- Bell, J., & Westoby, C. (2025). Public and mental health professionals’ perspectives on social media and suicide exposure. BMC Public Health, 25(1), 1380.