Aberystwyth

Samariaid Aberystwyth a’r Canolbarth / The Samaritans of Aberystwyth and Mid Wales

Contact us

116 123 free from any phone

0330 094 5717 local call charges apply

Harbour House
Aberystwyth SY23 1AS

Where we work

Aberystwyth

How we can help

Listening service
Schools outreach
Welsh speakers
Community outreach
Military outreach

Gweledigaeth y Samariaid yw bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad.

Samaritans’ Vision is that fewer people die by Suicide.

Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn Aberystwyth wedi bod yn cefnogi cymunedau’r Canolbarth er 1976. Mae ein gwirfoddolwyr yn treulio cannoedd o oriau bob blwyddyn yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol, heb farnu, bob diwrnod o’r wythnos, gan gynnwys ar benwythnosau, yn ystod gwyliau a dros nos. Rydym yn rhan o wasanaeth y Samariaid ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ac yn rhoi cefnogaeth emosiynol i bobl sy’n teimlo’n ofidus, yn anobeithio neu sydd â theimladau a allai arwain at hunanladdiad.

Aberystwyth Samaritans volunteers have been supporting the communities of mid Wales since 1976. Our volunteers spend hundreds of hours each year, providing a confidential and non-judgmental listening service, every day of the week, including weekends and holidays and overnight. As part of Samaritans nationally we provide emotional support to people experiencing feelings of distress or despair, including those which may lead to suicide.

Gwaith Cyswllt / Outreach

Wrth inni roi cefnogaeth emosiynol, rydym yn cefnogi unigolion mewn llawer o amgylchiadau gwahanol, a byddwn yn gweithio ar y cyd â mudiadau eraill sy’n ymwneud ag unigolion ac yn rhoi cefnogaeth iddynt. Rydym hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ac i gynorthwyo cymunedau i gefnogi ei gilydd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen Gwaith Cyswllt yn Aberystwyth a’r Canolbarth.

As we provide emotional support, we support individuals in many different circumstances, and we will work alongside other organisations who engage or support individuals. We are also keen to raise awareness and help communities support each other. For further information please see Outreach at Aberystwyth and mid Wales.

Gwirfoddoli / Volunteering

Rydym yn ceisio denu mwy o wirfoddolwyr trwy gydol yr amser, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy’n cynnig gwasanaeth gwrando, rhai sy’n fodlon rhoi sgyrsiau neu rai sydd â diddordeb mewn cyhoeddusrwydd, marchnata a chodi arian. Gwirfoddolwyr yw holl aelodau ein cangen! Fyddai gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni? Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen Gwirfoddoli yn Aberystwyth a’r Canolbarth.

We are always recruiting more volunteers including those who provide a listening service, those who may be willing to give talks or are interested in publicity, marketing and fundraising. All members of our branch are volunteers! Would you be interested in volunteering for us? To find out more please see Volunteering at Aberystwyth and mid Wales.

Rhoi / Giving

Mae Samariaid Aberystwyth yn gwbl ddibynnol ar gyfraniadau hael cymuned y Canolbarth. Os hoffech gyfrannu at Samariaid Aberystwyth neu ein cynorthwyo i godi arian, darllenwch ein tudalen Rhoi i Aberystwyth a'r Canolbarth.

Aberystwyth Samaritans are solely dependent on the generous contributions of the mid Wales community. If you would like to donate to Aberystwyth Samaritans or help us with fundraising, please see Giving to Aberystwyth and mid Wales.

Preifatrwydd / Privacy

Mae preifatrwydd yn holl bwysig i’r hyn y mae’r Samariaid yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a’r wybodaeth bersonol sydd gennym. Gallwch ddarllen ein datganiad preifatrwydd yma.

At Samaritans, privacy is at the heart of what we do. We are committed to protecting your privacy and the personal information that we hold. Read our privacy statement here.

Samaritans of Aberystwyth and Mid Wales is part of Samaritans, a charity registered in England and Wales (219432) and in Scotland (SC040604) and incorporated in England and Wales as a company limited by guarantee (757372).