Dod o hyd i ffordd ymlaen yng Nghymru

Mae bron chwarter poblogaeth Cymru (23%) yn byw mewn tlodi. Mae’n costio £3.6 biliwn y flwyddyn i Gymru, sef pumed o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad yng Nghymru bob blwyddyn, ffigur sydd oddeutu tair gwaith y nifer sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ffordd. Hunanladdiad yw’r achos marwolaeth mwyaf cyffredin ymysg dynion rhwng 20 a 49 oed a phrif achos marwolaeth pobl o dan 35.

View this page in English

Gwyddom fod tlodi’n gysylltiedig â phobl yn lladd eu hunain. Gwyddom hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel a bod yna gamau y gallwn eu cymryd fel nad yw adegau anodd yn arwain at farwolaethau pobl.

Erbyn hyn mae yna dystiolaeth ddiymwad o gysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol. Mae ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol uwch yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch a pho uchaf yw’r lefel amddifadedd mae unigolyn yn ei phrofi, uchaf yw’r risg ymddygiad hunanladdol.

Yn 2016, comisiynodd y Samariaid wyth gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw i adolygu ac ehangu’r corff gwybodaeth presennol ar y cysylltiad rhwng anfantais economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol. Lansiwyd yr adroddiad, ‘Marw o Anghydraddoldeb’, ym mis Mawrth 2017 ac roedd yn cynnwys canfyddiadau allweddol am y cyswllt rhwng hunanladdiad ac amddifadedd ac argymhellion ar gyfer lleddfu’r cysylltiad hwn.

Er mwyn edrych ar oblygiadau, heriau a chyfleoedd yr adroddiad hwn i Gymru, gwahoddasom bartneriaid allweddol, rhanddeiliaid ac arbenigwyr i ymuno â ni mewn trafodaeth. Roedd y sgyrsiau a gafwyd yn ddadlennol, yn destun gofid ac ysbrydoliaeth. Clywsom gan amrywiaeth fawr o gyfranogwyr, llawer ohonynt yn staff y rheng flaen, o wasanaeth yr heddlu i sefydliadau yn y trydydd sector i ganolfannau byd gwaith. Roedd pawb yn cydnabod realiti’r cyswllt rhwng tlodi, trallod a hunanladdiad, a’r angen taer i wneud popeth a allwn i fynd i’r afael ag ef. 

Mae tlodi’n golygu wynebu ansicrwydd di-baid. Mae ei nodweddion yn cynnwys tai annigonol, iechyd meddwl gwael, cyflawniad addysgol isel, diweithdra, unigedd a symudedd cymdeithasol isel. Dylai gwybod bod y rhain hefyd yn ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad ychwanegu taerineb ac egni i ymdrechion i leddfu tlodi a’i effaith ar unigolion a chymunedau. Un o'r sylwadau o’n seminar oedd bod pawb eisiau bod yn aelod abl o’r gymdeithas a bod ag ymdeimlad o berthyn ac ystyr. Mae’r pwyslais hwn ar gysylltiad rhwng pobl yn agos i’n gwerthoedd ninnau fel sefydliad. Mae pŵer cymunedau yng Nghymru a sgiliau a galluoedd y bobl ynddynt yn ased o bwys y mae angen ei gydnabod, ei gefnogi a’i ddefnyddio.

Mae modd atal hunanladdiad. Mae’n hollbwysig inni fod â chydweithredu effeithiol ar draws llywodraeth ganolog a lleol, grwpiau amlasiantaethol, cymunedau a’r holl asiantaethau lleol a all chwarae rhan yn y gwaith o atal hunanladdiadau yng Nghymru.

Lawrlwytho’r adroddiad