Mwy o wybodaeth
Sut bydd y Samariaid yn eich cefnogi chi
- Diweddariadau rheolaidd drwy e-bost a chefnogaeth gan Dîm Digwyddiadau Samaritans
- Derbyn deunyddiau codi arian a chodi ymwybyddiaeth
- Eich crys Samaritans eich hun i’w wisgo â balchder yn ystod eich taith
- Swper pan fyddwch yn cyrraedd ar y noson a brecwast ar ôl eich taith (yn cynnwys diodydd poeth)
- Byrbrydau am ddim (bariau grawnfwyd, ffrwyth ac ati)
- Diod â swigod i ddathlu ar ôl gorffen
Pam fod angen eich help ar y Samariaid
Gwyddom fod bywyd yn gallu bod yn eithriadol o anodd ar adegau. Diolch i ymroddiad mwy na 20,000 o wirfoddolwyr, gall y Samariaid fod yno i unrhyw un, beth bynnag maen nhw’n mynd trwyddo, a phryd bynnag maen nhw’n cael trafferth i ymdopi. Rydym hefyd wrth galon cymunedau lleol gan weithio gydag ysgolion, gweithleoedd, rheilffyrdd, carchardai ac ysbytai yn cynnig hyfforddiant a chymorth, yn atal hunanladdiad ac yn helpu pobl i weddnewid eu bywydau.
Oes gennych chi gwestiwn am y digwyddiad hwn? Cysylltwch â’n Tîm Digwyddiadau yn community&[email protected] a byddwn yn ateb cyn gynted ag y gallwn.