13 Chwefror 2026
Clywodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, am ein 50 Mlwyddiant, a daeth ar ymweliad anffurfiol â'r Gangen ar 13 Chwefror yn ei swydd fel Aelod Senedd rhanbarthol. Dangosodd ddiddordeb mawr yn ein gwaith yn Aberystwyth a'r Canolbarth. Llongyfarchodd y Samariaid am arloesi gyda chymorth iechyd meddwl yn ôl yn y 1970au, a nododd, er bod agweddau wedi newid, fod yr angen yn fwy nag erioed.
13 February 2026
Eluned Morgan, Wales’s First Minister, heard about our 50th Anniversary, and made an informal visit to the Branch on 13 February in her capacity as regional Senedd Member. She was very interested in how we work in Aberystwyth and Mid Wales. She congratulated Samaritans for being pioneers in mental health support back in the 1970s, and commented that although attitudes have changed, the need is greater than ever.