Adnoddau Addysgu DYEG

DYEG: Datblygu Ymwybyddiaeth  Emosiynol a Gwrando

English version

Mae adnoddau addysgu gan y Samariaid yn helpu ysgolion i ddatblygu’r sgiliau mae eu hangen ar bobl ifanc i ymdopi â heriau bywyd.

Nod DYEG (Datblygu Ymwybyddiaeth Emosiynol a Gwrando) yw:

  • codi ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol a phwysigrwydd adnabod pan mae angen cymorth arnoch
  • datblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol
  • lleihau stigma a chwalu rhwystrau ynghylch siarad am iechyd emosiynol
  • datblygu sgiliau cyfathrebu
  • datblygu ymddygiad cefnogi a cheisio cymorth mewn pobl ifanc.

Beth sydd yn adnoddau DYEG wedi’u diweddaru?

Mae adnoddau DYEG yn set o gynlluniau gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u rhannu i’r unedau hyn:

  • Iechyd emosiynol
  • Strategaethau ymdopi
  • Delio â theimladau
  • Cysylltu ag eraill (sgiliau cyfathrebu)

Yn cyd-fynd â’r unedau hyn mae’r canlynol:

  • Nodiadau athrawon
  • Sesiynau hyfforddi staff
  • Sleidiau hyfforddi staff
  • Fideo Cyflwyniad i DYEG
  • Gweithgareddau asesu
  • Gwybodaeth gefndir i DYEG
  • Adnoddau clyweledol

I weld adnoddau DYEG llenwch y ffurflen ganlynol:

Rhowch eich enw llawn

Os ydych wedi’ch cofrestru eisoes gweld adnoddau DYEG.