
Dysgodd sêr Clwb Rygbi’r Dreigiau sut i gysylltu â’u hiechyd meddwl a lles yr wythnos hon cyn gêm gartref olaf y tymor y dydd Sadwrn hwn.
Cyflwynodd Chris a Jay, gwirfoddolwyr gwrando Samariaid Casnewydd a Gwent, sgwrs pecyn cymorth craff i chwaraewyr a staff Clwb Rygbi’r Dreigiau ar ôl eu sesiwn hyfforddi bore Llun yn Ystrad Mynach sy’n codi ymwybyddiaeth am siarad ag eraill.
Pwysleisiant y ffaith nad yw bod yno i’w gilydd yn rhywbeth sy’n digwydd ar y maes chwarae yn unig, ond i ffwrdd ohono hefyd, ac y gall fynd ymhell i atal hunanladdiad yn y dyfodol.
Dywedodd pennaeth allgymorth Samariaid Casnewydd Jay, yn ei sgwrs “Mae athletwyr proffesiynol yn dioddef llawer mwy o bwysedd meddyliol oherwydd gwahanol ffactorau fel gosod disgwyliadau uchel tu hwnt a wynebu beirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ar ben y pwysau bob dydd mae pawb arall yn eu hwynebu.”
Mae Samariaid Cymru yn noddi’r ornest nesaf rhwng Clwb Rygbi’r Dreigiau a Connacht (dydd Sadwrn 4 Mawrth).
Nod yr elusen atal hunanladdiad yw codi mwy o ymwybyddiaeth am yr elusen a’r gwasanaethau a ddarperir ganddi, yn enwedig y llinell gymorth 24 awr, 116 123, neu'r llinell Gymraeg (ar agor rhwng 7pm a 11pm) ar 0808 164 0123.
Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru “Hunanladdiad yw prif achos marwolaethau ymysg dynion dan 50 yng Nghymru.”
Felly fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i leihau nifer y marwolaethau trwy hunanladdiad, roedd gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rygbi’r Dreigiau yn golygu y gallem estyn allan at fwy o ddynion yng Nghymru.”
Dywedodd prif hyfforddwr Clwb Rygbi’r Dreigiau Dai Flannagan “Roedd yn wych i groesawu Samariaid Casnewydd a Gwent i’n canolfan hyfforddi i gyflwyno sesiwn llawn gwybodaeth ac sy’n ysgogi’r meddwl gyda’r sgwad chwaraewyr, a dysgu mwy am y gwaith allweddol maen nhw’n ei wneud.
“Diolch iddyn nhw hefyd am noddi’r gêm ar ddydd Sadwrn pan fydd ein cefnogwyr yn dysgu mwy am waith hollbwysig yr elusen atal hunanladdiad.”
Hoffem ddangos ein gwerthfawrogiad i Glwb Rygbi’r Dreigiau am bartneru â ni, fel y gallwn wneud gwahaniaeth, nid yn unig i’r chwaraewyr a’r staff ond i’r holl gefnogwyr sy’n byw yng Ngwent.
Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru