Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl sy’n byw yng Nghymru, ac yn gwaethygu anghydraddoldebau i’r rhai mwyaf agored i niwed.
Datgelodd ymchwil o arolwg YouGov bod dros hanner (61%) y bobl sy’n byw yng Nghymru’n dweud bod eu sefyllfa ariannol bresennol yn niweidio’u hiechyd meddwl.
Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru “mae’r heriau a wynebir gan bobl ifanc yn ddigynsail” wedi iddynt fyw trwy bandemig yn ystod eu haddysg ffurfiannol ar ben pwysau ariannol cynyddol yr argyfwng costau byw.
Rydw i felly’n croesawu’r £2.3 miliwn mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i wasanaethau iechyd meddwl a llesiant mewn prifysgolion.
Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni yn y Samariaid wedi cryfhau ein partneriaeth gweithio gyda sefydliadau addysg uwch ac mae gennym nifer o adnoddau ar waith i’w cefnogi,” meddai.
Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys Cam wrth Gam, cymorth ôl-ymyriad i unrhyw sefydliadau sydd wedi profi marwolaeth trwy hunanladdiad, a’r adnodd Tosturi mewn Addysg sy’n cynnig canllawiau i staff i’w helpu nhw i gynorthwyo eu cymuned yn well.
Dywedodd Neil, “Rydw i’n awyddus iawn i adeiladu ar y gwaith hwnnw drwy gryfhau ein cysylltiadau â Phrifysgolion ac Undebau Myfyrwyr yng Nghymru, fel bod atal hunanladdiad yn elfen allweddol o’u gwaith.”