Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru

Mae’r Samariaid yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru.

Diben Samariaid Cymru yw lleihau nifer y bobl sy’n marw trwy hunanladdiad. Er bod achosion hunanladdiad yn gymhleth, mae llawer o ffactorau risg, a grwpiau risg uchel yn sgil hynny, sy’n cynyddu risg syniadaeth hunanladdol a hunanladdiad a gwblhawyd. Mae pobl ifanc yn grŵp sydd â risg uchel ar gyfer salwch meddwl a hunanladdiad yng Nghymru ac o’r herwydd mae’n hanfodol i gwricwlwm newydd Cymru gyflawni ei ymrwymiad i iechyd a lles mewn ffordd glir ac ymarferol.

Mae Samariaid Cymru wedi parhau i groesawu’r cwricwlwm newydd ers lansio Dyfodol Llwyddiannus yn 2015. Rydym yn credu y gallai posibiliadau a chyfleoedd y cwricwlwm newydd gyflwyno diwylliant newydd o newid ym maes diwygio iechyd meddwl. Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed ac felly mae’r ddadl dros ddull ataliol yn glir; y blynyddoedd yn yr ysgol yw’r cyfle hanfodol i roi i blant a phobl ifanc y sgiliau mae arnynt eu hangen. Dylid edrych ar raglenni iechyd emosiynol mewn ysgolion fel math o waith hyrwyddo, atal ac ymyrryd yn gynnar a allai leihau’r pwysau ar CAMHS, lleihau problemau iechyd meddwl penodol a gwella cyflawniad academaidd.

Yn 2017, rhoesom groeso i gyhoeddi treial dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn caniatáu i ddisgyblion â phroblemau iechyd meddwl mewn mwy na 200 o ysgolion yng Nghymru gael cymorth cynnar gan ymarferwyr CAMHS ar y safle. Fodd bynnag, er bod y math hwn o gysylltu gwasanaethau addysg ac iechyd yn hanfodol, pwysleisiasom fod ein galwad am weithredu yn dal i gael ei gosod yn nes at y gwraidd ac yng nghyd-destun sylfaenol ymyrraeth gynnar trwy adeiladu gwydnwch; sgil a all leihau hunanladdiad yn y dyfodol.

Er gwaethaf y ffocws cryf ar iechyd a lles yn y cwricwlwm newydd, rydym yn pryderu y gallai’r cyfrifoldeb am iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc gael ei roi i bobl allanol. Er y bydd y peilot mewngymorth yn ‘datblygu ... sgiliau athrawon’ i ymdrin â ‘p[h]roblemau lefel isel ... o fewn eu gallu’, mae’n hollbwysig i’r math hwn o gymorth fod ar gael i’r holl athrawon a staff ar draws Cymru. Fel rhaglen beilot, mae’n bosibl y bydd hon yn cynnig cymorth ychwanegol i’r ardaloedd peilot, ond yn methu â mynd i’r afael mewn modd cyson â’r mater dan sylw.

Mae cyllido rhaglenni iechyd meddwl allanol i ysgolion yn codi pryder tebyg. Er ein bod yn croesawu unrhyw fesurau sy’n darparu cymorth bugeiliol ychwanegol i blant a phobl ifanc, mae rhaglenni allanol yn symud y cyfrifoldeb oddi wrth yr ysgolion hwythau. Yn ystod gwahanol gyfarfodydd gyda gweithwyr addysgu proffesiynol yng Nghymru, rydym wedi clywed droeon bod yn well gan athrawon i asiantaethau allanol ddod i ddarparu rhaglenni iechyd meddwl oherwydd nad ydynt yn hyderus i’w darparu eu hunain neu, yn anad dim, oherwydd nad ydynt yn credu bod hyn yn rhan o’u rôl. Mae hwn yn destun pryder gwirioneddol ac yn un y mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef yn ei darddle, yn hytrach na symud y broblem.

Rydym yn clywed yn rheolaidd am ysgolion rhagorol sy’n datblygu Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles fel ysgol arloesi. Drwy gydol y cam datblygu hwn, mae Arloeswyr Iechyd a Lles wedi penderfynu peidio â llunio rhestr benodol o ‘gynnwys’ i ddod o dan y Maes Dysgu a Phrofiad, ar y sail y gallai hyn arwain at feddylfryd ticio blychau. Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad hwn wedi cael ei ddisgrifio fel un sy’n ‘hyrwyddo agwedd sy'n rhoi pwyslais ar ddiben y rhan hon o'r cwricwlwm yn hytrach nag ar y cynnwys[1]. Er y credwn fod y drafft presennol o’r datganiadau ‘Beth sy’n bwysig’ i Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn addawol, heb unrhyw gynnwys arfaethedig rydym yn mynegi pryder ynghylch rhoi’r cyfrifoldeb am wersi iechyd meddwl i bobl allanol neu dangynrychioli’r gwersi hyn.

Yn yr un modd, rydym yn credu bod y drafft presennol o’r camau datblygiad ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn addawol iawn. Yn benodol, mae gan ‘Mae sut yr ydym yn prosesu ac yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein lles meddyliol ac emosiynol’ gamau datblygiad cadarn a allai, o’u cyflawni, wella iechyd meddwl pobl ifanc yn sylweddol. Fodd bynnag, oherwydd y ffocws ar elfennau thematig iechyd a lles, yn hytrach na rhestr cynnwys, ar hyn o bryd mae’n aneglur sut y byddai staff yn sicrhau eu bod yn cyflawni’r deilliannau. Dywedwyd wrthym y byddai iechyd meddwl, man lleiaf, yn cael ymdriniaeth trwy’r Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol. Mae’r drafft presennol o’r canllawiau ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynnwys canllawiau technegol arfaethedig i ysgolion, sydd yn rhestru ‘Sgiliau ar gyfer iechyd a lles’. Fodd bynnag, mae hwn yn gategori eang ac nid yw ar unrhyw gyfrif yn sicrhau darpariaeth iechyd meddwl. Yn y canllawiau drafft ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, mae adran cyfeirio hefyd sy’n rhoi manylion sefydliadau cymorth allanol i blant a phobl ifanc. Mae’r adran hon yn cynnwys bwlio, hawliau plant, cydraddoldeb, diogelwch ar lein, perthnasoedd a rhyw, iechyd rhywiol a chamdriniaeth rywiol. Ni restrir unrhyw sefydliadau cymorth penodol ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, sy’n awgrymu nad yw’r topig yn un o elfennau craidd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac felly ni allwn ragdybio y bydd staff addysgu yn ei weld fel hyn.

Gan fod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol, rydym wedi holi sut y bydd hyn yn ffitio i Faes Dysgu a Phrofiad sy’n thematig ac nad yw’n rhoi pwyslais ar gynnwys. Dywedwyd wrthym fod ei natur statudol yn golygu na fydd yn perthyn i un Maes Dysgu a Phrofiad penodol (Iechyd a Lles) ac y bydd yn lle hynny’n cael ei darparu ar draws y chwe maes. Credwn y dylid rhoi’r un cyfle i iechyd meddwl; ni ddylai’r topig hwn ddod o dan un Maes Dysgu a Phrofiad yn unig. Gallai iechyd meddwl fel elfen thematig o’r cwricwlwm ddod o dan nifer o Feysydd Dysgu a Phrofiad a chynnwys, megis technoleg, celfyddydau mynegiannol a llythrennedd.

Ar hyn o bryd ni wyddom am unrhyw ymrwymiadau i gynnwys iechyd meddwl sylfaenol mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Rydym wedi galw am hyn yn rheolaidd drwy gydol ein gwaith ar bolisi addysg yng Nghymru. Rhoesom groeso i’r ffocws cryf ar y maes hwn yn yr adroddiad Cadernid Meddwl a gobeithiwn y bydd ymateb newydd Llywodraeth Cymru tua dechrau 2019 yn egluro’r cynnydd neu ymrwymiad i sicrhau y caiff ei gynnwys. O safbwynt ymarferol, er gwaethaf y ffocws cryf ac arloesol ar iechyd a lles yn y cwricwlwm newydd, ni allwn ddisgwyl i athrawon fod yn fedrus ac yn hyderus i addysgu disgyblion am iechyd meddwl neu i siarad am drallod emosiynol gyda golwg ar gyfeirio’n effeithiol neu ymdrin â’r mater yn fewnol fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Gellid ymdrin â’r farn gyffredin ymysg rhai nad cyfrifoldeb athrawon yw iechyd meddwl trwy gynnwys hyfforddiant ar iechyd meddwl mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a byddai hyn yn pwysleisio ei fod yn faes â blaenoriaeth uchel. Unwaith eto, dyma gyfle i wreiddio ymagwedd ataliol at iechyd meddwl, yn hytrach na cheisio rhoi’r cyfrifoldeb ar bobl allanol.

Fel sylw olaf, hoffem godi mater cynaliadwyedd. Er y gwyddom fod yna ysgolion rhagorol sy’n darparu rhaglenni diwygio arloesol yn eu hamgylcheddau trwy ddyluniad cwricwlwm neu ymagweddau ysgol gyfan, gwyddom hefyd fod y mentrau hyn yn aml yn cael eu hysgogi gan arweinwyr ABCh neu benaethiaid hynod frwdfrydig. Wrth farnu nad yw iechyd a lles yn rhoi pwyslais ar gynnwys, mae angen inni sicrhau bod ysgolion wedi’u paratoi i barhau’n llwyddiannus os bydd arweinwyr penodol yn gadael yr ysgol. Yn yr un modd, mae angen inni feddwl yn ofalus am ddarpariaeth iechyd meddwl gadarn mewn achosion lle rhoddir cyfrifoldeb am wersi i bobl allanol. Dim ond peth o'r ffordd y mae rhaglenni peilot ac ymarferwyr allanol, fel y trydydd sector, yn gallu mynd wrth gynorthwyo poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae’n hanfodol nad yw hyn yn cael ei weld yn ffordd gynaliadwy o sicrhau darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion.

At hynny, hoffem bwysleisio ein cefnogaeth i Gadernid Meddwl a’r gwaith hanfodol mae’r Pwyllgor yn ei wneud mewn perthynas ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Yn nhermau addysg yn benodol, gallai’r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad Cadernid Meddwl wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru a bod yn rhan hanfodol o waith atal hunanladdiad.

Yn olaf, rydym wedi croesawu Busnes Pawb, adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad. Yn benodol, ar gyfer y maes polisi hwn, hoffem bwysleisio ein cefnogaeth i Argymhelliad 24 a’r angen i’w roi ar waith ar frys. Mae’r cwricwlwm newydd yn darparu adeg hwylus i wireddu’r argymhelliad hwn; yn arbennig cyhoeddi arweiniad i ysgolion ar siarad am hunanladdiad a hunan-niwed. Unwaith eto, mae hyn yn rhan hanfodol o sicrhau bod athrawon yn fedrus i siarad am drallod emosiynol mewn modd agored a hyderus. Gallai arweiniad o’r fath gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar ddarpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion ac yn gwneud i staff addysgu deimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd perchnogaeth. Mae’n hanfodol inni achub ar bob cyfle i wreiddio’r neges nad yw siarad am hunanladdiad a thrallod emosiynol yn cynyddu’r risg; mae’n ei leihau.



[1] Cwricwlwm newydd i Gymru: Yr hanes hyd yn hyn… (Llywodraeth Cymru)