Storiau achub bywyd

Mae dros 16,000 o staff rheilffordd wedi cael eu hyfforddi mewn atal hunanladdiad gan Samariaid.

Maen nhw yn awr yn helpu rhywun bedair gwaith y dydd ar gyfartaledd, ac mae hunanladdiadau rheilffordd ar eu lefel isaf ers 2010. Ond gyda'ch help chi, mae modd achub hyd yn oed rhagor o fywydau.

Dyma bedair stori gan staff rheilffordd sydd wedi helpu gosod pobl ar y ffordd at adferiad.

Mân siarad achub bywyd #1: Oes angen unrhyw help arnoch chi?

Esbonia Andrew Wellbeloved sut y defnyddiodd y cwestiwn hwn i helpu achub bywyd dyn yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Es i at ddyn, a ymddangosai'n ddryslyd a ffwndrus ond yn amlwg mewn cyflwr o anobaith. Roeddwn i'n nerfus gan nad oeddwn wedi bod mewn sefyllfa fel hon o'r blaen.

“Llwyddais i siarad â'r dyn a'i hebrwng i ddiogelwch, ac wedi hynny gelwais y gwasanaethau brys ac aethon nhw â'r dyn i'r ysbyty. "Ond ar ôl gwneud cwrs hyfforddiant Samariaid sylweddolais y gall pobl fod yn y fath gyflwr meddwl gwael nad yddynt yn sylweddoli eu bod yn effeithio rhywun arall. Ac mae'n rhoi'r hyder i chi fynd atyn nhw."

 

Mân siarad achub bywyd #2: Michael ydw i, beth yw'ch enw chi?

Esbonia Michael Budd sut y defnyddiodd y cwestiwn hwn i helpu achub bywyd dyn yn Essex.

Cefais wybod yn gyntaf am ddyn ar y traciau pan dderbyniais alwad gan reolaeth. Unwaith i mi gadarnhau bod popeth yn ddiogel, es i ato.

“Cyflwynais fy hun a llwyddais i'w gael i ddweud ei enw; roedd yn edrych yn anniben, cythryblus a gofidus iawn. Arhosais i yn ddigyffro a gwrandewais. Dim ond gadael iddo siarad oedd y peth cywir i wneud. “Sgwrsion ni a rhoddais sicrwydd iddo fy mod yno i helpu. Fe'i harweiniais at fan diogel ar y platfform lle roedd yr heddlu yn aros gydag ambiwlans. Cyn iddo adael yn yr ambiwlans, diolchodd i mi am fy help.”

 

Mân siarad achub bywyd #3: Mae hi'n noson gynnes, tydi?

Esbonia Damon Lightwood sut y defnyddiodd y cwestiwn hwn i helpu achub bywyd menyw yn Sussex.

Wrth i n i yrru dros bont, gwelais fod menyw ar yr ochr anghywir iddi yn hongian ar y rheilen llaw yn ysgwyd yn ôl ac ymlaen. Dywedais i, ‘Stopiwch y fan’, neidiais allan a cherddais draw ati hi.

“Dywedais i ‘Mae hi'n noson gynnes, tydi?’, ond nid oedd ateb i ddechrau. Wedyn cyrhaeddodd arolygydd rheilffordd arall a safodd y ddau ohonom bob ochr iddi. Dywedon ni wrthi, beth bynnag yr oedd yn mynd trwyddo, nid oedd hyn yn werth y drafferth. “Roedd hi'n dweud, ‘Does gen i ddim ffrindiau,’ a dywedon ni, ‘mae gennych chi ffrindiau yma’. Yn y pen draw helpon ni hi yn ôl ar y ffordd ac eistedd gyda hi hyd y cyrhaeddodd yr heddlu."

 

Mân siarad achub bywyd #4: Pa drên ydych chi'n mynd i ddal?

Esbonia Ben West sut y defnyddiodd y cwestiwn hwn i helpu achub bywyd dyn yn Ne Llundain.

Gwelais i ddyn yn sefyll ar blatfform mewn mân ynysig, yn syllu i'r gwagle. Roedd e'n edrych yn ddigalon. Roeddwn i'n gwybod ar unwaith bod rhywbeth o'i le. Roeddwn i yn y lle iawn ar yr amser iawn.

“Dechreuais ofyn cwestiynau torri'r iâ iddo i adeiladu ychydig o berthynas, fel ‘Pa drên ydych chi'n mynd i ddal?’ a ‘Ble dych chi'n mynd?’. Roedd natur y cwestiynau yn agored gan fy mod yn awyddus iddo siarad â mi. “Ar ôl ychydig o gwestiynau, roeddwn i'n teimlo'n ddigon hyderus i ofyn iddo'n uniongyrchol, ‘Dw i'n gwybod beth dych chi'n mynd i wneud, dych chi eisiau neidio?’. Nodiodd a dechreuodd dagrau syrthio i lawr ei wyneb. Dywedais i wrtho, ‘Pam nad awn ni a chael sgwrs?’, ac es i ag ef i swyddfa'r orsaf. “Wrth i mi fynd â'r dyn i'r swyddfa, gwnes i arwydd i staff yr orsaf i ffonio'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, a gwnaethant hynny.”

Os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith gyda Network Rail a'r rheilffordd ehangach gallwch wneud hynny yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda'r Samariaid, gallwch holi yma.